Ynni Sir Gâr: cynhyrchu ac arbed ynni gyda'n cymunedau
Mae Ynni Sir Gâr yn fenter gymdeithasol sydd wedi ei lleoli yn Sir Gâr. Mae'n gweithio yn ein cymuned i fynd i'r afael â newid hinsawdd, trwy leihau costau ynni, hybu effeithlonrwydd ynni, taclo tlodi tanwydd, cynhyrchu ynni adnewyddadwy glân a chadw'r elw'n lleol. Rydym yn gweithio gyda chymunedau, cyrff yn y trydydd sector, sefydliadau ac ysgolion ledled gorllewin Cymru, er mwyn cyflawni prosiectau ynni a mesurau cynaliadwyedd, a chynnal y prosiectau a'r mesurau hynny. Ymdrechwn i weithio gyda'r Sector Cyhoeddus a busnesau lleol ar nifer o brosiectau sy'n gysylltiedig ag ynni, cynaliadwyedd a hinsawdd. Rydym hefyd yn rhan o rwydwaith i hybu datrysiadau ar gyfer cludiant wedi'i ddatgarboneiddio ledled Cymru, a hynny'n benodol trwy rannu ceir trydan a gosod pwyntiau gwefru ar draws ardaloedd gwledig Cymru.
Mae tîm Ynni Sir Gâr yma i helpu. Cysylltwch â ni i drafod cyfleoedd i gydweithio. Datganiad Covid-19